Dosbarthiadau Cyfnod Allweddol Un * Key Stage One Classes

Mae pwyslais ar chwarae a dysgu drwy ymchwilio yn yr Uned Dan Bump. ac mae'r disgyblion yn medru defnyddio sgiliau allweddol Cyfathrebu, Mathemateg a Thechnoleg Gwybodaeth yn eu chwarae. Mae disgyblion Cyfnod Allweddol Un yn adeiladu ar y rhain drwy ddatblygu pynciau yn y Cwricwlwm Cenedlaethol, gan ddefnyddio a datblygu'r medrau allweddol trwyddynt. Dyma siop esgidiau'r plant dan bump, lle maent yn defnyddio sgiliau Mathemategol a Chyfathrebu i fesur, didoli, cyfatebu, cymharu a chyfrif arian mewn sefyllfa chwarae rôl. Mae'r corneli chwarae rôl yma'n newid yn aml i gyd-fynd â'r themau a'r storiau o fewn y dosbarth.
Each term, a competition appears on our web site for pupils of each key stage. Keep an eye out for Autumn's competition, coming soon!
Pob tymor mae cystadleuaeth ar gael ar ein gwefan ar gyfer disgyblion yr ysgol. Cadwch eich llygaid ar agor ar gyfer un yr Hydref, cyn bo hir!
Un o'r pethau mae'r plant Dan Bump yn mwynhau gwneud ydy addurno clustog. Maent yn peintio a phrintio ar ddefnydd, wedyn gan ddefnyddio'r technegau diweddaraf ar y cyfrifiadur, maent yn teipio eu henwau i'w trosglwyddo i'r clustogau. Mae'r plant, wedyn, yn eistedd ar eu clustogau personol amser stori One of the activities that the Under Five pupils enjoy is decorating their own pillow. They paint and print on material, and type their own name into the computer, to be transferred onto their pillow case. These pillows and cushions are then used by each child during story time. Here is an example of one.
Dyma'r staff sydd ar hyn o bryd yn dysgu disgyblion cyfnod allweddol un. Mae'r plant hyn yn amrywio o dair i saith mlwydd oed, ac yn cael eu dysgu yn yr uned dan bump, ac yn nosbarthiadau un a dau.
Dyma'r staff sydd yn cynorthwyo athrawon cyfnod allweddol un.
